Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 29 Ionawr 2019

Amser: 09.17 - 10.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5072


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

David J Rowlands AC (Cadeirydd)

Janet Finch-Saunders AC

Mike Hedges AC

Neil McEvoy AC

Leanne Wood AC

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc)

Ross Davies (Dirprwy Glerc)

Sam Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd

</AI2>

<AI3>

2.1   P-05-855 Adolygiad o ryddhad ardrethi busnesau bach

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am i'r deisebwyr ymateb i'r ohebiaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.

</AI3>

<AI4>

2.2   P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru (Cyfraith Lucy)

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         aros am ganlyniad yr ymgynghoriad cyn ystyried pa gamau pellach y gall fod eu hangen o ran y ddeiseb, gan gynnwys dadl yn y Cyfarfod Llawn.

 

</AI4>

<AI5>

2.3   P-05-857 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w hysbysu am y ddeiseb yng nghyd-destun eu gwaith parhaus ar y pwnc hwn yn dilyn yr adroddiad Cadernid Meddwl, a gofyn am unrhyw sylwadau sydd gan y Pwyllgor mewn perthynas â rôl a chwmpas Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion; a

·         gofyn am bapur ymchwil ar y gofynion presennol mewn perthynas â chynlluniau iechyd meddwl ar gyfer plant ac effeithiolrwydd y cynlluniau hynny.

 

</AI5>

<AI6>

2.4   P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu llythyr at y Gweinidog Addysg ynglŷn â'r ddeiseb hon a P-05-861 yn gofyn a yw'n bosibl dechrau gweithredu gwelliannau i'r ffordd y dysgir sgiliau bywyd i ddisgyblion mewn ysgolion cyn i'r cwricwlwm newydd gael ei weithredu yn llawn yn 2022, a gofyn sut, yng nghyd-destun rhoi hyblygrwydd i weithwyr proffesiynol, y mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod disgyblion yn cael hyfforddiant digonol o ran sgiliau bywyd yn ystod eu haddysg; ac

·         aros am i'r deisebwyr ymateb i'r ohebiaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

 

</AI6>

<AI7>

2.5   P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at y Gweinidog Addysg ynglŷn â'r ddeiseb hon a P-05-860 yn gofyn iddi ystyried gweithredu cyflymach i sicrhau bod gwelliannau i’r addysg wleidyddol a ddarperir mewn ysgolion ar waith cyn y gweithredir y cynnig i roi hawl i bobl 16 a 17 oed bleidleisio yn etholiad y Cynulliad yn 2021.

</AI7>

<AI8>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI8>

<AI9>

3.1   P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i gadw golwg ar y mater hwn tan y bydd y gwaith asesu stoc ar ben cyn ystyried unrhyw gamau pellach.

 

</AI9>

<AI10>

3.2   P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

 

</AI10>

<AI11>

3.3   P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd yn gofyn iddo ystyried defnyddio'r cyllid a fyddai wedi mynd i Wylfa Newydd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu ymhellach gynlluniau cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

 

</AI11>

<AI12>

3.4   P-05-839 Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

 

</AI12>

<AI13>

3.5   P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a chan Gomisiwn y Gymraeg a chytunodd i ysgrifennu at Gymwysterau Cymru a'r Gweinidog Addysg i rannu'r dadansoddiad a'r wybodaeth a gafwyd gan Gomisiwn y Gymraeg, a gofyn iddynt ymateb i'r atebion penodol a gynigiwyd.

 

 

</AI13>

<AI14>

3.6   P-05-793 Band eang cyflym i bentref Llangenni

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ fel yr oedd ar y pryd a chytunodd i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn dilyn ei ddatganiad dyddiedig 18 Ionawr, a gofyn iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ynghylch y ddarpariaeth yn Llangenni pan fydd modd iddo wneud hynny ac, os bydd y pentref yn cael ei gwmpasu gan y rhaglen, i ddarparu amserlen ddangosol ar gyfer ei gysylltu â band eang cyflym.

 

</AI14>

<AI15>

3.7   P-05-824 Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y Drenewydd

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni penderfyniadau terfynol Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys i wrthod y cynnig.

 

</AI15>

<AI16>

3.8   P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Vertex a'r Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn iddo ystyried a oes ffordd briodol o sicrhau bod cleifion a fyddai’n elwa arno yn cael mynediad dros dro at Orkambi, o gofio bod trafodaethau wedi ailddechrau ynghylch argaeledd tymor hir y feddyginiaeth gan y GIG.

 

</AI16>

<AI17>

3.9   P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru a'r deisebwyr a chytunodd ar y camau a ganlyn:

</AI17>

<AI18>

3.10 P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ fel yr oedd ar y pryd a chan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i groesawu'r ffaith bod camau y cyfeiriodd y Gweinidog blaenorol atynt yn cael eu hystyried, yn enwedig o ran gweithredu cynllun peilot, a bydd yn gofyn am ddiweddariad am yr amserlenni ar gyfer ystyriaeth neu waith pellach yn y maes hwn, gan fod yr ymgynghoriad ar y Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw'n Annibynnol bellach wedi'i gwblhau.

 

</AI18>

<AI19>

3.11 P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r deisebydd, a chyn ystyried pa gamau pellach y gallai eu cymryd, cytunodd y bydd yn derbyn cynnig y deisebydd i ddarparu adroddiad pellach ar y rheswm y mae angen i'r gyfraith newid yn y maes hwn.

 

</AI19>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>